Ffotomarathon

Cynhaliwyd ail ffotomarathon Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 27 Hydref 2012. Nod y diwrnod oedd tynnu chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr. 

Cafwyd cryn ddiddordeb gyda dros 60 o bobl yn cymryd rhan. Rhoddwyd gwobrau ar gyfer y set orau gan gamera a lensys cyfnewidiol a lensys parhaol, set orau ar gyfer 16 oed ac iau a'r set orau o luniau wedi eu cymryd gan ffôn symudol. Gwobrwywyd hefyd y llun unigol gorau ymhob thema.

Anna Irving enillodd y wobr am set a chamera gyda lensys cyfnewidiol ac Andrew Currie yn ennill am y set orau gyda chamera a lensys parhaol. Yr enillydd ifanc (16 oed ac iau) oedd Steffan Nicolas ac enillodd Mark Davies am ei gyfres o chwe llun wedi eu tynnu ar ffôn symudol.

Roedd gwobrau hefyd am y lluniau gorau yn y themau unigol ac enillwyd rheiny gan

  • Tim Medcalf (cylchoedd)
  • Leonie Doran (y stryd)
  • Geraint Lewis Hughes (edrych mewn)
  • Rhodri ap Dyfrig (Gwyrdd)
  • Geraint Lewis Hughes (Unigryw)
  • Rhodri ap Dyfrig (Cysgod)
     

Arddangoswyd y lluniau yn Morlan, Aberystwyth tan 14 Tachwedd 2012 a gellir gweld y lluniau buddugol yma drwy fynd i'r Galeri.

Ein arianwyr a'n cefnogwyr

Arianwyr

Logo's of some of our funders including: Welsh Government, National Lottery, Art Council of Wales

Ein holl noddwyr